Franz Kafka
Oddi ar Wicipedia
Llenor yn ysgrifennu yn Almaeneg oedd Franz Kafka (3 Gorffennaf 1883 - 3 Mehefin 1924).
Ganed ef yn ninas Prâg, oedd yr adeg honno yn rhan o Awstria-Hwngari, i deulu Iddewig dosbarth-canol. Almaeneg oedd ei famiaith. O 1889 hyd 1893, aeth i'r Deutsche Knabenschule, ysgol elfennol i fechgyn, ac oddi yno i'r Altstädter Deutsches Gymnasium, gan gymeryd ei arholiad Maturita yn 1901.
Aeth i Brifysgol Charles-Ferdinand ym Mhrâg, lle dechreuodd astudio cemeg cyn newid i'r gyfraith ymhen pythefnos. Graddiodd yn 1906, ac aeth i weithio i gwmni yswiriant yn 1907. Yn y cyfnod yma, dyfeisiodd yr het galed i weithwyr diwydiannol, ac enillodd fedal am hyn. Yn 1923, symudodd i Berlin i ganolbwyntio ar ysgrifennu. Roedd wedi bod yn dioddef o'r diciau ers 1917, a chyn hir dychwelodd i Prâg cyn mynd i sanatoriwm yn Kierling ger Vienna lle bu farw yn 1924.
Yr enwocaf o'i weithiau yw'r stori fer Die Verwandlung (Y Cyfnewidiad), lle mae'r arwr yn deffro un bore i ddarganfod ei fod wedi troi yn fath o bryf enfawr a ffiaidd.
[golygu] Nofelau
- Der Prozeß (Y Prawf, 1925)
- Das Schloß (Y Castell, 1926)
- Amerika (1927)