Foel Grach
Oddi ar Wicipedia
Foel Grach Carneddau |
|
---|---|
Llun | Foel Grach o Foel Fras |
Uchder | 976 m / 3,202 troedfedd |
Gwlad | Cymru |
Un o'r copaon ar brif grib y Carneddau yw Foel Grach. Saif rhwng Carnedd Llywelyn i'r de a Garnedd Uchaf a Foel Fras i'r gogledd.
Fel y rhan fwyaf o'r copaon yn y Carneddau, mynydd gwelltog yw Foel Grach, ond ceir clogwyni ar yr ochr ddwyreiniol yn disgyn tua Llyn Dulyn a Llyn Melynllyn. Mae nifer o nentydd yn tarddu ar y llethrau gorllewinol ac yn llifo i mewn i Afon Caseg.
Adeiladwyd caban fymryn islaw'r copa fel lle i gysgodi dros nos neu mewn tywydd garw i fynyddwyr sydd mewn trafferthion ar y Carneddau. Fodd bynnag, bu cwyno fod rhai mynyddwyr yn cynllunio i aros yma, yn hytrach nag yn ei ddefnyddio mewn argyfwng yn unig.
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa a'i chriw: Yr Wyddfa (1085m) | Garnedd Ugain (1065m) | Crib Goch (923m) |
Y Glyderau: Elidir Fawr (924m) | Y Garn (947m) | Glyder Fawr (999m) | Glyder Fach (994m) | Tryfan (915m) | |
Y Carneddau: Pen yr Ole Wen (978m) | Carnedd Dafydd (1044m) | Carnedd Llywelyn (1064m) | Yr Elen (962m) | Foel Grach (976m) | Garnedd Uchaf (926m) | Foel-fras (942m) |