Eldra Jarman
Oddi ar Wicipedia
Telynores ac awdures Gymreig oedd 'Eldra Jarman (1917 - 2000).
Ganed hi yn Eldra Roberts, yn or-wyres i John Roberts (Telynor Cymru), cynrychiolydd olaf traddodiad y telynorion Sipsi Cymreig. Daeth hithau yn delynores adnabyddus, a dysgodd y tonau Sipsi yr oedd hi wedi eu dysgu gan ei thad i Robin Huw Bowen. Cyfansoddodd rai tonau ei hunan hefyd.
Roedd yn briod a'r ysgolhaig A.O.H. Jarman. Ychydig cyn ei marwolaeth, bu'n cydweithio ar sgript y ffilm deledu Eldra, a ddangoswyd at S4C yn 2001, yn seiledig ar ei bywyd cynnar ym Methesda.
[golygu] Cyhoeddiadau
- Y Sipsiwn Cymreig (1979)
- The Welsh Gypsies: Children of Abram Wood (1991)