Dwayne Peel
Oddi ar Wicipedia
Chwaraewr Rygbi'r Undeb i dîm rhanbarthol Scarlets Llanelli a Chymru yw Dwayne John Peel (ganed 31 Awst 1981). Mae'n chwarae fel mewnwr.
Ganed ef yng Nghaerfyrddin ac astudiodd ym Mhrifysgol Abertawe. . Ymunodd a Chlwb Rygbi Llanelli, gan symud i Scarlets Llanelli pan ffurfiwyd y timau rhanbarthol yn 2003. Ar 15 Ionawr 2008, cyhoeddwyd y byddai'n ymuno a Sale Sharks ar ddiwedd tymor 2007-08.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn Japan yn 2001, pan oedd yn dal yn fyfyriwr. Roedd yn rhan allweddol o dîm Cymru pan enillwyd y Gamp Lawn yn 2005. Dewiswyd ef ar gyfer taith y Llewod i Seland Newydd yn 2005; ef oedd y chwaraewr ieuengaf yn y garfan. On 9 Medi 2007, Peel oedd capten Cymru yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd 2007, pan gurwyd Canada 42-17.
Roedd yn rhan o'r garfan a gyflawnodd y Gamp Lawn ym mhencampwriaeth 2008, ond erbyn hyn yr oedd yn wynebu cystadleuaeth am safle mewnwr oddi wrth Mike Phillips. Dim ond un gêm a ddechreuodd Peel yn y bencampwriaeth yma, yn erbyn yr Eidal.