Denzil Davies
Oddi ar Wicipedia
Aelod seneddol dros etholaeth Llanelli o 1970 hyd 2005 oedd David John Denzil Davies (ganwyd 9 Hydref 1938). Fe'i ganwyd yng Nghynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin, a chafodd ei addysg yn ysgol gynradd Cynwyl Elfed, Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin, a chafodd radd dosbarth cyntaf yn y gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1962. Galwyd ef i'r bar yn 1965.
Dilynodd Jim Griffiths yn aelod seneddol dros Lanelli yn etholiad cyffredinol1970. Gwasanaethodd fel gweinidog gwladol yn y trysorlys o 1975 tan 1979. Bu'n Ysgrifennydd Cysgodol i Gymru o 1983 i 1984, ac yn Ysgrifennydd Amddiffyn Cysgodol ac yn aelod o'r Cabinet Cysgodol o 1985 - 89. Yn 1989 ymddiswyddodd yn oriau mân y bore yn dilyn anghytundeb difrifol â Neil Kinnock.
Yr oedd yn gefnogol iawn i ddatganoli yn 1979 ond yn ddigon rhyfedd amwys iawn oedd ei safbwynt yn 1997. Ymddeolodd o'r senedd yn 2005.
Rhagflaenydd: Jim Griffiths |
Aelod Seneddol dros Lanelli 1970 – 2005 |
Olynydd: Nia Griffith |