Cyfnewidfa Glo
Oddi ar Wicipedia
Adeilad ar gyfer masnachu glo yng Nghaerdydd ydy'r Gyfnewidfa Glo (Saesneg: Coal Exchange), yn ogystal a dal nifer o swyddfeydd. Lleolir ym Mae Caerdydd, ger The Point, defnyddir ar gyfer dal cyngherddau cerddoriaeth byw a nifer o ddigwyddiadau eraill erbyn heddiw.
Cynllunwyd yr adeilad gan y pensaer Edwin Seward. Adeiladwyd rhwng 1883 a 1886 fel canolfan ar gyfr dal trafodaethau masnach ynglyn a phyllau glo Cymmoedd De Cymru - cludwyd y rhanfwyaf o'r glo i Gaerdydd i gael ei ddosbarthu. Chwaraeodd yr adeilad rôl arbennig o bwysig yng Nghaerdydd diwydianol yr 19eg ganrif. Dywedir mai yn y Gyfnewidfa Glo yr ysgrifennwyd y siec cyntaf am £1,000,000, yn ystod cyfnewid ar droad yr 20fed ganrif. Allforwyd 2500 tunnell o lo i Ffrainc.
[golygu] Dolenni Allanol
- (Saesneg) The Coal Exchange