Cwmaman (Sir Gaerfyrddin)
Oddi ar Wicipedia
Cymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Cwmaman, weithiau Cwmamman. Saif y gymuned yn rhan ganol Dyffryn Aman, i'r dwyrain o Rydaman. Mae'n cynnwys pentref Glanaman a'r Garnant, a rhan o lethrau gorllewinol y Mynydd Du.
Arferai'r diwydiant glo fod yn bwysig iawn yn yr ardal yma, ond caeodd y pwll mwyaf, Gelliceidrym, yn 1958, ac erbyn 1985 roedd pob un o'r pyllau glo wedi cau. Roedd hefyd ddiwydiant tunplat yma.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 4,226, gyda 78.47% yn medru Cymraeg.