Clychau'r Gog
Oddi ar Wicipedia
Clychau'r Gog | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Hyacinthoides non-scripta (L.) Chouard ex Rothm. |
Planhigyn blodeuol yw Clychau'r Gog (Lladin: Hyacinthoides non-scripta, neu'n gyfystyr Endymion non-scriptus, Scilla non-scripta). Ymysg ei enwau Cymraeg eraill mae 'Bwtias y Gog', 'Croeso Haf', 'Cennin y Brain', 'Clychau'r Eos', a 'Glas y Llwyn'. Mae'n lluosflwydd ac oddfog a'n blodeuo yn y gwanwyn. Mae'n gynhenid yn Ynysoedd Prydain, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Llydaw, a rhannau gogleddol a gorllewinol o Ffrainc. Ceir y rhywogaethau tebyg H. hispanica a H. italica yng Ngorynys Iberia a chyrion y Mor Canoldir yn ôl eu trefn.
Mae'r dail, a'r blodau (sy'n ymddangos ym misoedd Ebrill a Mai), yn tarddu o oddfyn. Mae bonau'r flodau oddeutu 10-30 cm o hir, a'n plygu tua'r ben. Mae siap cloch gan y blodau piwslas, gyda blychau paill melyn golau.
Ceir planhigion croesryw gyda H. hispanica, gan i hwnnw gael ei dyfu'n aml mewn gerddi ym Mhrydain. Mae pryder y gall hyn fygythio'r rhywogaeth cynhenid prydeinig. Gellir adnobod planhigion croesryw wrth eu dail a blodau mwy llydan, blodau llai pendilog gyda blychau paill tywyllach (mae blychau paill H. hispanica yn biws).
Yn y Deyrnas Unedig mae Clychau'r Gog yn rhywogaeth wedi'i amddiffyn dan ddeddf seneddol. Ni chaniateir tynnu oddfau, na masnachu mewn oddfau neu hadau.