Charles Lyttelton, 10fed Is-iarll Cobham
Oddi ar Wicipedia
Ffigwr gwleidyddol Seland Newydd a cricedwr Seisnig oedd Charles John Lyttelton, 10fed Is-iarll Cobham, KG, GCMG, GCVO, TD, PC (8 Awst 1909 – 20 Mawrth 1977). Ganed yn Kensington, Llundain, ac addysgwyd yng Ngholeg Eton. Bu farw yn Marylebone, Llundain. Roedd hefyd yn gefnder i'r cerddor Humphrey Lyttelton.
Gwasanaethodd fel Llywodraethwr-Cyffredin Seland Newydd rhwng 1957 a 1962. Yn ystod y cyfnod hwnnw, enillodd Samoa ei annibyniaeth.