Carniola
Oddi ar Wicipedia
Talaith yn Slofenia yw Carniola (Slofeneg Kranjska, Almaeneg Krain). Dan reolaeth Ymerodraeth Awstria-Hwngari, tir y goron, Dugaeth Carniola (Herzogtum Krain), ydoedd. Rhennir y dalaith yn dair rhan: Carniola Uchaf, Carniola Isaf a Carniola Fewnol. Prifddinas wreiddiol y dalaith oedd Krainburg (heddiw Kranj), ond symudwyd y brifddinas wedyn i Laibach (heddiw Ljubljana). Diddymwyd y ddugaeth yn 1918, pryd ymgorfforwyd o fewn Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid (wedyn Teyrnas Iwgoslafia). Heddiw mae'r dalaith o fewn Gweriniaeth Slofenia, lle mae'n llunio rhan fwya'r wlad.
|
|||||
---|---|---|---|---|---|
Primorska | Carniola | Carinthia | Styria Isaf | Prekmurje |