Carmen de Patagones
Oddi ar Wicipedia
Carmen de Patagones, weithiau Patagones, yw dref fwyaf deheuol Talaith Buenos Aires yn yr Ariannin. Saif ar lan ogleddol y Río Negro, gyferbyn a Viedma, prifddinas Talaith Río Negro ar y lan arall. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 18,189.
Sefydlwyd y dref fel Nuestra Señora del Carmen yn 1779 gan y Sbaenwr Francisco de Biedma y Narváez. Pan sefydlwyd y Wladfa yn Nyffryn Camwy yn 1865, Carmen de Patagones oedd y dref fwyaf deheuol yn yr Ariannin, a chludwyd nwyddau oddi yno i'r gwladfawyr mewn llongau.