Camlas Morgannwg
Oddi ar Wicipedia
Dyma'r gamlas gyntaf i'w hadeiladu yng Nghymru Roedd iddi 50 lloc ac roedd yn rhedeg o Ferthyr Tudful i Gaerdydd.
Dechreuwyd ei hadeiladu ym 1790 Roedd meistri haearn Merthyr yn talu am ei bod hi'n hanfodol iddynt gael ffordd i gludo haearn i'r môr. Yr adeiladwr oedd Thomas Dadford, disgybl i'r peiriannydd James Brindley.
Cwblhawyd y gwaith rhwng Merthyr Tudful a Phontypridd ym 1792, a rhwng Pontypridd a Chaerdydd ym 1794.Gorffenwyd y gamlas yn gyfangwbl wrth agor lloc môr ym 1798. Costiodd y cyfan £103,600.
Prynodd yr Ardalydd Bute gyfranddaliadau'r gamlas ym 1883.
Collodd y gamlas ei bri ar ôl agor Rheilffordd Dyffryn Taf. Erbyn heddiw does dim ond rhai olion (pontydd a llociau) yn aros.