See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Cadwallon ap Madog - Wicipedia

Cadwallon ap Madog

Oddi ar Wicipedia

Arglwydd Maelienydd oedd Cadwallon ap Madog (bu farw 22 Medi 1179). Bu'n ymladd am feddiant o Faelinnydd yn erbyn teulu'r Mortimeriaid. Roedd yn fab i Madog ab Idnerth, a fu farw yn 1140; roedd Idnerth yn or-ŵyr i Elystan Glodrydd, sylfaenydd llinach Rhwng Gwy a Hafren.

Ceir y cofnod cyntaf am Gadwallon yn 1160, pan ffraeodd a'i frawd Einion Clud o Elfael. Ymddengys iddo goncro Maelienydd tua diwedd y 1150au neu ynghynt.Yn 1175 dilynodd Rhys ap Gruffudd i Gaerloyw, lle gwnaeth gytundeb a Harri II, brenin Lloegr. Ymddengys iddo adeiladu nifer o gestyll, yn cynnwys Castell Crug Eryr, ac i Gastell Cymaron fod yn ei feddiant. Pan fu farw Einion Clud yn 1176, Cadwallon a gafodd ei diroedd.

Yn 1179 lladdwyd Cadwallon gan rhai o ddeiliaid Roger Mortimer wrth iddo ddychwelyd i Bowys ar ôl ymweld â llys Harri II, brenin Lloegr. Gan fod Cadwallon yn ddeiliad i'r brenin mewn enw, carcharwyd Roger Mortimer gan y brenin, a geisiai danseilio grym arglwyddi Normanaidd annibynnol y Mers, ac etifeddwyd Maelienydd gan fab Cadwallon, Maelgwn ap Cadwallon. Pan ryddhawyd Roger Mortimer o'r carchar cipiodd ran helaeth yr arglwyddiaeth, ond yn ddiweddarach llwyddodd Maelgwn i adfer ei feddiant gyda chymorth Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth. Ar ôl marwolaeth Rhys cipiwyd y diriogaeth gan y Mortimeriaid eto.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Remfry, P.M., The Political History of Abbey Cwmhir, 1176 to 1282 and the Families of Elystan Godrydd, Mortimer and the Princes of Gwynedd (ISBN 1-899376-47-X)
  • Remfry, P.M., The Native Welsh Dynasties of Rhwng Gwy a Hafren, 1066 to 1282 [M.Phil Thesis, Aberystwyth, 1989]
Ieithoedd eraill


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -