Brut Cynradd Rwsieg
Oddi ar Wicipedia
Brut neu gronicl sy'n adrodd hanes Slafiaid y Dwyrain o'r Diluw hyd at y flwyddyn 1110 yw'r Brut Cynradd Rwsieg (Rwsieg Повесть временных лет / Povest' vremennykh let; Hen Slafoneg Dwyreiniol Pověsti Vremyan'nykh Lět, 'Hanes y Blynyddoedd Gynt'). Credir iddo gael ei gyfansoddi ar ei ffurf gynharaf yn ystod y ddeuddegfed ganrif, gan ddechrau gyda fersiwn goll dybiedig a sgrifennwyd ym 1113. Er ei fod yn gynharach o ran dyddiad cyfansoddi na'r holl frutiau Rwsieg canoloesol eraill sydd ar glawr heddiw, y llawysgrif hynaf ohono yw'r Brut Lawrentiaidd, sy'n dyddio i'r bedwaredd ganrif ar ddeg (1377). Y prif lawysgrifau eraill yw'r Brut Hypatiaidd (dechrau'r bymthegfed ganrif), Brut Radzvilov a Brut Academi Moscfa (y ddau o ddiwedd y bymthegfed ganrif). Mae parhâd hyd at 1117 yn y Brut Hypatiadd, ac mae Brut Academi Moscfa yn estyn y digwyddiadau a ddisgrifir hyd at y bymthegfed ganrif.
Ynghyd â Brut Cyntaf Nofgorod, mae'r Brut Cynradd Rwsieg yn arbennig o bwysig am ei fod yn disgrifio digwyddiadau cynnar yn hanes Slafiaid y Dwyrain. Er enghraifft, mae'n adrodd sut y daeth tri brawd Llychlynnaidd a'u llwyth, y Rŵs, i greu gwladwriath Rwsia:
'Dywedodd y Chud [llwyth Ffinnaidd] a'r Slovene a'r Krivichi [llwythi Slafaidd] a phawb wrth y Rŵs "Mae ein gwlad yn fawr ac yn gyfoethog, ond nid oes trefn ynddi. Dewch i deyrnasu ac i reoli arnon ni." A dewisasant dri brawd a'u hil, a daethant â'r holl Rŵs gyda nhw, gan fynd; ac ymgartrefodd y hynaf, Rurik, yn Nofgorod, a'r ail, Sineus, yn Beloozero, a'r trydydd, Truvor, yn Izborsk. Ac o'r Farangiaid hyn y mae gwlad Rwsia yn cymryd ei enw.' (Brut Cynradd Rwsieg o dan y flwyddyn 862)
Mae hefyd yn adrodd dyfodiad Cristnogaeth i Slafiaid y Dwyrain (gweler Olga o Kiev) a'r brwydrau cynnar rhwng dywysogion Slafiaid y Dwyrain.
[golygu] Ffynonellau
Likhachev, D. S. a Adrianova-Peretts, V. P. 1996. Povest' Vremennykh Let. St. Petersburg: Nauka.