Antar
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd Antar, neu l'Antarah Ibn Shaddād Al-'Absi (fl. 6ed ganrif), yn fardd yn yr iaith Arabeg a rhyfelwr enwog.
Cafodd ei eni yn yr anialwch rywle yng nghyffiniau dinas Medina (gorllewin canolbarth Saudi Arabia heddiw), yn fab i bennaeth Bedouin a chaethferch ddu.
Cyfansoddai nifer o awdlau arwrol a chyfifir un ohonynt yn un o saith Awdl Aur llenyddiaeth Arabeg.
Dethlir bywyd Antar yn y chwedl arwrol Rhamant Antar (10fed ganrif), sy'n adrodd ei helyntion niferus er mwyn cael priodi ei gariad Abla.