Afon Dee (Swydd Aberdeen)
Oddi ar Wicipedia
- Am afonydd eraill o'r un enw, gweler Afon Dee.
Mae Afon Dee (Gaeleg: Uisge Dè) yn afon yn Swydd Aberdeen, gogledd-ddwyrain yr Alban. Mae'n tarddu yn y Cairngorms ac yn llifo trwy Royal Deeside i gyrraedd Môr y Gogledd yn Aberdeen. Ei hyd yw 90 milltir.
Mae'r afon yn tarddu 4000 troedfedd i fyny ar lwyfandir Braeriach. Mae afonydd eraill yn llifo iddi yn Lairig Ghru ac mae'n rhedeg rhwng mynyddoedd uchel Ben Macdui a Cairn Toul. Yn y Linn of Dee mae'r llifo trwy geunant naturiol 300m. Yn ardal "Glannau Dee Brenhinol" rhed yr afon heibio i bentrefi a threfi Braemar, Ballater, Aboyne a Banchory.
Cyn cyrraedd Môr y Gogledd, mae Afon Dee yn llifo trwy harbwr Aberdeen. Cloddiwyd sianel artiffisial yno yn 1872, i wella'r harbwr.