Zine el-Abidine Ben Ali
Oddi ar Wicipedia
Zine el-Abidine Ben Ali (Arabeg: زين العابدين بن علي), (ganed 3 Medi, 1936, yn Hammam Sousse), yw arlywydd Tunisia ers 7 Tachwedd, 1987.
Yn frodor o Hammam Sousse, ger Sousse lle gweithiai ei dad yn y porth, cafodd ei fagu mewn ardal dosbarth gweithiol yn y dref honno. Cymerodd ran yn y gwrthryfel yn erbyn y Ffrancod yn 1956 ond heb fod yn un o'r arweinwyr pwysicaf. Yn y chwedegau cynnar aeth i'r Unol Daleithiau i dderbyn hyfforddiant milwrol. Cafodd sawl swydd ym myddin Tunisia a'r gwasanaethau diogelwch cyn ddod yn weinidog yn Swyddfa Cartref y wlad, yn llywodraeth y prif weinidog Rachid Sfar, ac yna daeth yn brif weinidog ei hun. Ben Ali oedd yn gyfrifol am orfodi Habib Bourguiba, Arlywydd cyntaf Tunisia ac arwr y rhyfel dros annibyniaeth, i "ymddeol am resymau meddygol." Coup dwylo melfed oedd hyn ym marn nifer o bobl.
Y tu allan i'r wlad a rhai cylchoedd diplomyddol (e.e. UDA) y farn gyffredinol yw bod Ben Ali yn unben[1], gan fod y régime Tunisiaidd yn unbleidiol i bob pwrpas[2] sy'n cyfyngu rhyddid barn[3]. Ond serch hynny, er nad yw'n ddemocratiaeth ryddfrydol mae ei lywodraeth ymhell o fod yn dotalitariaidd.
Rhagflaenydd: Habib Bourguiba |
Arlywydd Tunisia 7 Tachwedd 1987 – |
Olynydd: '' |