Y Faner
Oddi ar Wicipedia
Papur newydd rhyddfrydol Cymraeg arloesol a gyhoeddid yn Ninbych oedd Y Faner a'i sefydlwyd yn 1843 gan Thomas Gee. Cyfunwyd y papur gyda Amserau Cymru yn 1859 gan y cyhoeddwyr, Gwasg Gee, i greu Baner ac Amserau Cymru. Cyhoeddwyd Y Faner hyd 1 Ebrill 1992,[1] cyn dyfodiad Y Faner Newydd tua 1997
Apwyntiwyd y llenor amryddawn T. Gwynn Jones yn is-olygydd Baner ac Amserau Cymru yn 1890. Gweithiodd William Thomas (Islwyn) a Gwilym R. Jones ar y papur am gyfnod. Bu Hafina Clwyd hefyd yn is-olygydd a golygydd Y Faner.[2] Cyhoeddwyd gwaith Owain Owain yn y papur hefyd.