Wolfgang Amadeus Mozart
Oddi ar Wicipedia
Wolfgang Amadeus Mozart cyfansoddwr |
|
Genedigaeth: |
27 Ionawr 1756 Salzburg |
Marwolaeth: |
5 Rhagfyr 1791 Fienna, Awstria |
Roedd Wolfgang Amadeus Mozart (27 Ionawr 1756 - 5 Rhagfyr 1791) yn un o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol a diwyd y cyfnod Clasurol. Fe'i ganwyd yn Salzburg, Awstria a dechreuodd gyfansoddi darnau pan oedd yn bump oed. Pan roedd yn dal yn blentyn aeth ei dad, Leopold Mozart, ag ef i chwarae o flaen teuluoedd crand Ewrop. Mae'n bosibl fod yr holl deithio wedi achosi problemau iechyd iddo yn hwyrach yn ei fywyd.
Ei wraig oedd Constanze Weber. Plant: Karl Thomas Mozart a Franz Xaver Wolfgang Mozart; cyfansoddwr oedd Franz.
Bu farw ym 1791 yn drychinebus o ifanc, yn dlawd, ond wedi cyfansoddi cannoedd o ganeuon sy'n adnabyddus hyd heddiw.
Mae Mozart wedi ysgrifennu 68 symffoni, 27 concerto piano, yn ogystal â choncerti i'r clarinet, y corn Ffrengig, yr obo, y fiola, y ffidil, y ffliwt a'r telyn.
[golygu] Operáu gan Mozart
- Die Schuldigkeit des ersten Gebotes, K. 35 (1767)
- Apollo et Hyacinthus, K. 38 (1767)
- Bastien et Bastienne, K. 50 (1768)
- La finta semplice, K. 51 (1768)
- Mitridate, K. 87 (1770)
- Ruggiero (1771)
- Ascanio in Alba, K. 111 (1771)
- Betulia Liberata, K. 118 (1771)
- Il sogno di Scipione, K. 126 (1772)
- Lucio Silla, K. 135 (1772)
- Thamos, König in Ägypten (1773, 1775)
- La finta giardiniera, K. 196 (1774)
- Il rè pastore, K. 208 (1775)
- Zaide, K. 344 (1779)
- Idomeneo, K. 366 (1780)
- Die Entführung aus dem Serail neu Il Seraglio, K. 384 (1782)
- L'oca del Cairo, K. 422
- Lo sposo deluso, K. 430
- Der Schauspieldirektor, K. 486
- Le nozze di Figaro, K. 492 (1786)
- Don Giovanni, K. 527 (1787)
- Così fan tutte, K. 588 (1789)
- Die Zauberflöte, K. 620 (1791)
- La clemenza di Tito, K. 621 (1791)