Tancred
Oddi ar Wicipedia
Croesgadwr o Normaniad a Thywysog Galilea oedd Tancred (c.1078 - 1112). Arweiniodd y Groesgad Gyntaf yn y Lefant.
[golygu] Ei hanes
Cymerai ran flaenllaw yng ngwarchae Antioch a chwncwest Jeriwsalem yn 1099.
Am gyfnod bu'n Regent Antioch (1101 - 1103; 1104-1112) ar ran Bohemond I, Tywysog Antioch.
Yn 1110 ail-gipiodd castell strategol Krak des Chevaliers (yng ngorllewin Syria heddiw).
[golygu] Llên
Ceir portread cofiadwy a dylanwadol o Dancred yn arwrgerdd fawr Tasso, Gerusalemme liberata (1575), lle y'i portreadir fel y Croesgadwr sifalriaidd delfrydol.
Ysgrifenwyd bywgraffiad Tancred yn yr iaith Ladin gan Ralph o Caen, a fu'n llygad-dyst i yrfa ei arwr ym Mhalesteina gan wasanaethu dano fo a Bohemund.
Mae carwriaeth Tancred a'r rhyfelferch Fwslemaidd Clorinda yn cael ei bortreadu mewn sawl opera a phaentiad.
[golygu] Darllen pellach
- David S. Bachrach (cyf.), Ralph of Caen: Life of Tancred (2005)
- Robert Lawrence Nicholson, Tancred: A Study of His Career and Work (AMS Press, 1978)
- Peters, Edward (gol.), The First Crusade: The Chronicle of Fulcher of Chartres and Other Source Materials (Philadelphia: University of Pennsylvania Press, 1998)
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.