Talaith Misiones
Oddi ar Wicipedia
Talaith yng ngogledd-ddwyrain yr Ariannin yw Misiones. Yn y gorllewin, mae'n ffinio ar Paraguay, gyda'r Afon Paraná yn eu gwahanu; yn y dwyrain mae'n ffinio ar Brasil, gydag afonydd Iguazú, San Antonio a Pepirí Guazú yn eu gwahanu. Yn y de-orllewin, mae'n ffinio ar dalaith Corrientes yn yr Ariannin.
Gydag arwynebedd o 29,801 km², Misiones yw'r leiaf ond un o daleithiau'r Ariannin; dim ond talaith Tucumán sy'n llai. Coedwig is-drofannol sy'n nodweddiadol o'r dalaith; er fod digoedwigo yn broblem, mae'n parhau i orchuddio 35% o'i harwynebedd. Mae poblogaeth y dalaith yn 1,077,987.
Mae Rhaeadrau Iguazú ger y ffin a Brasil yn fyd-enwog ac yn atyniad pwysig i dwristiaid.
Taleithiau'r Ariannin | |
---|---|
Dinas Ffederal | Buenos Aires | Catamarca | Chaco | Chubut | Córdoba | Corrientes | Entre Ríos | Formosa | Jujuy | La Pampa | La Rioja | Mendoza | Misiones | Neuquén | Río Negro | Salta | San Juan | San Luis | Santa Cruz | Santa Fe | Santiago del Estero | Tierra del Fuego, Antarctica ac Ynysoedd y De Iwerydd | Tucumán |