Stilicho
Oddi ar Wicipedia
Roedd Flavius Stilicho (c. 359 - 22 Awst, 408) yn gadfridog Rhufeinig fu'n gwasanaethu fel magister militum ac a fu am gyfnod yn llywodraethwr de facto yr ymerodraeth yn y gorllewin.
Ganed Stilicho yn yr hyn sy'n awr yr Almaen. Roedd ei dad yn Fandal a'i fam yn ddinesydd Rhufeinig. Ynunodd a'r fyddin Rufeinig a daeth i amlygrwydd yn ysfod teyrnasiad yr ymerawdwr Theodosius I. Yn 384 gyrrodd Theodosius ef fel llysgennad at frenin Persia, Shapur III, i drefnu cytundeb heddwch a rhannu Armenia. Pan ddychwelodd, gwnaeth Theodosius ef yn gadfridog, gyda'r gorchwyl o amddiffyn yr ymerodraeth yn erbyn y Fisigothiaid. Priododd Stilicho nith yr ymerawdwr, Serena, a ganwyd mab o'r enw Eucherius iddynt.
Ychydig cyn ei farw yn 395, penododd Theodosius ef yn llywodraethwr ar ran ei fab ieuanc Honorius, a ddaeth yn ymerawdwr yn y gorllewin. Bu Stilicho yn ymladd am flynyddoedd yn erbyn y Fisigothiaid dan Alaric I, gan eu gorchfygu ym Macedonia yn 397. Gorchfygodd wrthryfel y comes Gildo yng Ngogledd Affrica yr un flwyddyn. Ymladdodd ddwy frwydr fawr arall yn erbyn Alaric, Pollentia yn 402 a Verona yn 403.
Yn 408 datblygodd cynllwyn ei ei erbyn gan rai o swyddogion y llys, yn enwedig Olympius. Cyhuddwyd ef o gynllwynio gydag Alaric ac o fwriadu gwneud ei fab yn ymerawdwr. Cymerwyd ef i'r ddalfa yn Ravenna, a dienyddiwyd ef ar 22 Awst. Llofruddiwyd ei fab Eucherius yn Rhufain yn fuan wedyn.
Gwanychodd y digwyddiadau hyn yr ymerodraeth yn y gorllewin yn sylweddol, ac erbyn Medi 408 roedd Alaric wedi gosod gwarchae ar ddinas Rhhufain ei hun. Yn 410 meddiannodd Alaric y ddinas a'i hanrheithio.