Solomon a Gaenor
Oddi ar Wicipedia
Ffilm a ryddhawyd yn 1999 yw Solomon a Gaenor. Ffilmiwyd ddwywaith, unwaith yn Saesneg a'r tro arall yn Gymraeg. Hefyd mae Ioan Gruffudd yn dweud tipyn o'i sgript ef yn Iddew-Almaeneg.
[golygu] Plot
Yng Nghymru yn 1911 mae Iddew ifanc (Gruffudd) yn ceisio ennill ei fywoliaeth trwy werthu brethynau o ddrws i ddrws, ond i wneud hynny mae angen iddo guddio ei ethnigrwydd. Ar un o'i rowndiau gwerthu mae e'n cwrdd ac yn cwympo mewn cariad â merch wylaidd (Nia Roberts) sydd â thad mynyddig-nerthol (William Thomas) a brawd gwrth-Semitig (Mark Lewis Jones). Mae'r ddeuddyn ifanc yn cwympo mewn cariad ac mae hi'n beichiogi, ond wedyn mae hi'n dod i adnabod ei ethnigrwydd fe. Pan mae terfysgoedd gwrth-Semitig yn digwydd, rhaid i'r ddau ffoi ac yna gwahanu.