Sidydd
Oddi ar Wicipedia
Mae'r Sidydd yn gylchfa yn y nefoedd ar hyd yr ecliptig, sef y llwybr ymddangosiadol y mae'r haul yn ei ddilyn yn ystod y flwyddyn. Rhennir y Sidydd yn ddeuddeng arwydd, sy'n cyfateb i un deg tri o gytserau. Mae arwyddion y Sidydd yn fwy hysbys mewn cyd-destun sêr-ddewiniol na seryddol.
[golygu] Cytserau'r Sidydd
Mae'r ecliptig yn cynnwys tri chytser ar ddeg, ond nid yw un ohonynt (Ophiuchus) yn ffurfio rhan o'r Sidydd traddodiadol.
Cytserau'r Sidydd yw: yr Hwrdd, y Tarw, yr Efeilliaid, y Cranc, y Llew, y Forwyn, y Glorian, y Sgorpion, y Saethydd, yr Afr, y Cariwr Dwr, a’r Pysgod.
[golygu] Arwyddion y Sidydd
Rhennwyd y Sidydd yn ddeuddeg rhan (un i bob mis y flwyddyn), y rhoddwyd iddynt enw'r cytser agosaf.
Mae'r tabl isod yn dangos arwyddion y Sidydd gyda'r dyddiadau pan mae'r haul yn mynd drwyddynt:
Cytser | Arwydd (Symbol) | Dyddiadau presenoldeb yr haul yn yr arwydd | Dyddiadau presenoldeb yr haul yn y cytser (yn 2000) |
Yr Hwrdd | 21 Mawrth - 20 Ebrill | 20 Ebrill - 13 Mai | |
Y Tarw | 21 Ebrill - 21 Mai | 14 Mai - 19 Mehefin | |
Yr Efeilliaid | 22 Mai - 21 Mehefin | 20 Mehefin - 20 Gorffennaf | |
Y Cranc | 22 Mehefin - 22 Gorffennaf | 21 Gorffennaf - 9 Awst | |
Y Llew | 23 Gorffennaf - 22 Awst | 10 Awst - 15 Medi | |
Y Forwyn | 23 Awst - 22 Medi | 16 Medi - 30 Hydref | |
Y Glorian | 23 Medi - 22 Hydref | 31 Hydref - 22 Tachwedd | |
Y Sgorpion | 23 Hydref - 22 Tachwedd | 23 Tachwedd - 29 Tachwedd | |
Ophiuchus |
|
30 Tachwedd - 17 Rhagfyr | |
Y Saethydd | 23 Tachwedd - 21 Rhagfyr | 18 Rhagfyr - 18 Ionawr | |
Yr Afr | 22 Rhagfyr - 20 Ionawr | 19 Ionawr - 15 Chwefror | |
Y Cariwr Dwr | 21 Ionawr - 18 Chwefror | 16 Chwefror - 11 Mawrth | |
Y Pysgod | 19 Chwefror - 20 Mawrth | 12 Mawrth - 18 Ebrill |