Siôr II, brenin Prydain Fawr
Oddi ar Wicipedia
Siôr II (10 Tachwedd 1683 - 25 Hydref 1760) oedd brenin Teyrnas Prydain Fawr o 11 Mehefin, 1727 hyd ei farwolaeth.
Cafodd ei eni yng nghastell Herrenhausen, Hanover, yr Almaen. Ef oedd mab Siôr I o Brydain Fawr a'i wraig, y Dywysoges Sophia Dorothea o Brunswick-Zell. Bu'n Tywysog Cymru o 27 Medi, 1714 hyd ei ddyrchafiad i'r orsedd. Ei wraig oedd Caroline o Ansbach.
[golygu] Plant
- Frederic, Tywysog Cymru (1707-1751)
- Anne (2 Tachwedd, 1709- 12 Ionawr 1759)
- Amelia Sophia Eleanor (10 Gorffennaf, 1711-31 Hydref, 1746).
- Caroline Elizabeth (21 Mehefin, 1713- 28 Rhagfyr, 1757).
- George William (13 Tachwedd, 1717 - 17 Chwefror, 1718).
- William Augustus, Dug o Cumberland (26 Ebrill, 1721 - 31 Hydref, 1765)
- Mary (5 Mawrth, 1723-14 Ionawr, 1772)
- Louisa (18 Rhagfyr, 1724-19 Rhagfyr, 1751)
Rhagflaenydd: Siôr I |
Brenin Prydain Fawr 11 Mehefin 1727 – 25 Hydref 1760 |
Olynydd: Siôr III |