Rhyddfrydiaeth
Oddi ar Wicipedia
Ideolegau Gwleidyddol |
---|
Anarchiaeth |
Ceidwadaeth |
Cenedlaetholdeb |
Comiwnyddiaeth |
Democratiaeth Gristnogol |
Democratiaeth gymdeithasol |
Ffasgiaeth |
Ffeministiaeth |
Gwleidyddiaeth werdd |
Islamiaeth |
Natsïaeth |
Rhyddewyllysiaeth |
Rhyddfrydiaeth |
Sosialaeth |
Ideoleg ac athroniaeth wleidyddol a'i gwreiddiau yn yr Oleuedigaeth yw rhyddfrydiaeth, sydd gyda rhyddid personol a gwelliant cymdeithasol fel ei chraidd. Yng ngwleidyddiaeth fodern, ystyrir rhyddfrydiaeth a democratiaeth i gael amcanion tebyg, sef newid y gyfundrefn gymdeithasol gyda chefnogaeth y bobl. Yn wahanol i radicaliaeth, lle gwelir newid cymdeithasol fel sylfaen a seilir ar egwyddorion newydd awdurdod, mae rhyddfrydiaeth yn gweld newid cymdeithasol yn raddol, ystwyth ac addasol.
[golygu] Rhyddfrydiaeth ddiwylliannol
Canolbwyntir rhyddfrydiaeth ddiwylliannol ar hawliau'r unigolyn yn nhermau cydwybod a dull o fyw, yn cynnwys rhyddid rhywiol, crefyddol a gwybyddol, a diogelwch o ymyrraeth lywodraethol ym mywyd personol. Arloesodd John Stuart Mill cysyniad rhyddfrydiaeth ddiwylliannol yn ei draethawd On Liberty. Yn gyffredinol, mae rhyddfrydiaeth ddiwylliannol yn gwrthwynebu rheolaeth neu sensoriaeth lywodraethol ynghylch llenyddiaeth, celf, gamblo, rhyw, puteindra, rheoli cenhedlu, erthylu, ewthanasia, alcohol, a rhai cyffuriau eraill. Mae'r mwyafrif o ryddfrydiaid yn erbyn ymyriad mewn rhai o'r materion hyn, neu nhw i gyd.