Rhestr gwaharddiadau ysmygu yn ôl gwlad
Oddi ar Wicipedia
Mae hon yn restr o waharddiadau ysmygu yn ôl gwlad.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Cymru
Ers yr 2il o Ebrill 2007, mae gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeëdig.
Mae rhaid ddangos arwydd gyda'r geiriau:
- Mae ysmgu yn y fangre hon yn erbyn y gyfraith. It is against the law to smoke in these premises.
Ond dydy'r gair "mangre" ddim yn ei ddefnyddio'n arferol y dyddiau hyn.
[golygu] Lloegr
Dechreuodd y gwahardd yn Lloegr ar yr 1fed o fis Gorffennaf 2007, yn ôl yr un ddeddf senedd fel yng Nghymru (y Ddeddf Iechyd 2006).
[golygu] Sbaen
Mae deddf gwarhardd ysmygu yn Sbaen, ond mae llawer o bobl yn ei hanwybyddu.
[golygu] Albania
Pasiwyd gwaharddiad ysmygu cenedlaethol yn Albania ym mis Mehefin 2006, gyda mwyafrif mawr yn y senedd, pan bleidleisiodd 75 o aelodau o blaid y gwaharddiad a dim ond 2 yn ei erbyn.[1] Mae'r gyfraith yn arbennig o llym ac ei wneud yn anghyfreithlon i:
- ysmygu neu brynnu deunyddiau ysmygu gan rai odan 18 oed
- gwerthu deunyddiau ysmygu ar y stryd neu unrhyw le arall cyhoeddus
- gwerthu deunyddiau ysmygu heb eu pacio a/neu i dreulio deunyddiau ysmygu mewn llefydd cyhoeddus, sell unpacked smoking products and/or consume smoking products in public places, sefydliadau, bwytai, ysgolion, ysbytai, cerbydau ayb.
Mewn bwytai, caniateir ysmygu mewn llefydd agored tu allan i'r prif adeilad yn unig. Mae'n rhaid arddangos gwybodaeth ynglyn ag effeithiau ysmygu ar flaen pob pac o sigarennau ac mae'n raid iddo gymryd 30-50% o'r lle ar y pac. Rhaid iddynt beicio a chynwys gwybodaeth camarweiniol na hybu gwerthiant gan bwysleisio lefel is o gemegyn y gallai gynnwys.
Mae llinell ffôn ar gael i ddinasyddion allu adrodd unrhyw fusnesau neu unigolion sy'n torri'r gyfraith.
Mae 40% o Albaniaid yn ysmygwyr rheolaidd, mae 60% ohonynt yn ddynion a 40% yn ferched.[2] Tra bod y gyfraith yn un o'r rhai mwyaf llym yn Ewrop, mae gweithredu'r gwaharddiad wedi bod yn llai llwyddianus. Mae'r rhai sy'n torri'r gyfraidd wedi cael dirwy ond nid yw'r rhain wastad wedi cael eu talu. [3]
Mae'r dirwy yn uchel[4]:
- 50,000 LEK (~US$550) ar gyfer unigolion neu fusnesau sy'n torri'r gyfraith (mae'r dirwy'n cynyddu am fwy nag un trosiad a gall busnesau golli eu trwydded gweithredu)
- 100,000 LEK (~US$1,100) am werthu deunyddiau ysmygu ar y stryd neu unrhyw le arall cyhoeddus
- 3,000,000 LEK (~US$33,000) ar gyfer mewngludwyr sy'n hysbysebu gwerthiant y deunydd
- 5,000,000 LEK (~US$55,000) ar gyfer y cyfryngau sy'n gadael i'r hysbysebu ddigwydd
[golygu] Gwaharddiadau arfaethedig
Yn y Weriniaeth Tsiec, mae mesur seneddol ar gyfer gwahardd ysmygu ym mhob man cyhoeddus ac ym mhob man caeedig megis tafarndai a bwytai sydd heb le arwahan i ysmygu gyda awyriad parhaol sydd heb effaith ar ardaloedd ddi-fwg. Mae nifer o fesurau seneddol yn cynnig gwaharddiadau tebyg wedi bod yn ddiweddar, ond ni gafodd rhain fyth eu gweithredu gan y Siambr Dirprwyon.[5]
Mae Caledonia Newydd yn debyg o gyflwyno cyfyngiadu ar ysmygu mewn llefydd cyhoeddus yn dilyn menter diweddar i fesur ansawdd aer mewn 25 gwlad ar draws y byd.[6]
[golygu] Ffynonellau
- ↑ Article on smoking ban in Albania
- ↑ Anti-smoking measures on restaurants in Albania
- ↑ Law fails to deter Albanian smokers; Southeast European Times
- ↑ Law protecting health from smoke products in Albania
- ↑ http://www.cbw.cz/phprs/2007070221.html
- ↑ http://www.rnzi.com/pages/news.php?op=read&id=32704
[golygu] Dolenni Allanol
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.