Pune
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn nhalaith Maharashtra yng ngorllewin India yw Pune (Marathi/Hindi: पुणे, hefyd Poona). Roedd poblogaeth yr ardal ddinesig yn 5,050,000 yn 2008, yr wythfed o ran poblogaeth ymhlith dinasoedd India. Saif ger cymer Afon Mula ac Afon Mutha.
Daeth Pune i amlygrwydd yn y 17eg ganrif fel canolfan y Peshwe, prif weinidogion Ymerodraeth Maratha. Wedi i'r ddinas ddod dan reolaeth Brydeinig yn 1817, daeth yn ganolfan weinyddol Arlywyddiaeth Bombay yn ystod cyfnod y monsŵn.
Mae'n adnabyddus am ei chryfder yn y sector addysgol, gyda naw prifysgol a mwy na chant o sefydliadau addysgol yn y ddinas.