Orissa
Oddi ar Wicipedia
Mae Orissa yn dalaith ar arfordir dwyreiniol India. Roedd ei phoblogaeth yn 36,706,920 yn 2001. Bhubaneswar yw prifddinas y dalaith, a'r prif borthladd yw Paradip. Mae dinas Puri yn cael ei hystyried yn ddinas sanctaidd ac yn safle teml enwog Jagannath. Iaith swyddogol y dalaith yw Oriya, iaith Indo-Ariaidd sy'n perthyn yn agos i Bengaleg. Hindwaeth yw'r brif grefydd; roedd 94.35% o boblogaeth y dalaith yn Hindwiaid yn 2001.
Mae'r hinsawdd yn wlyb, ac mae tyfu reis yn bwysig iawn yma, yn enwedig ar y tir ffrwythlon ger glannau'r môr. Ceir tua chwarter mwyn haearn India yn Orissa, a phumed rhan o'i glo, yn ogystal â chanran uchel o nifer o fwynau eraill. O ganlyniad tyfodd cryn dipyn o ddiwydiant yn y dalaith. Yn Orissa y bu Rhyfel Kalinga yn 261 CC.; y rhyfel yma a berswadiodd yr ymerawdwr Ashoka i droi ei gefn ar ryfela a throi'n Fwdydd.
Taleithiau a thiriogaethau India | |
---|---|
Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jammu a Kashmir • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Tiriogaeth Genedlaethol Delhi • Daman a Diu • Lakshadweep • Pondicherry |