Nijmegen
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn nwyrain yr Iseldiroedd, yn agos i'r ffin â'r Almaen, yw Nijmegen ( ynganiad Iseldireg ?/i ). Mae'r ddinas yn dyddio i'r cyfnod Rhufeinig, pryd y sefydlwyd Noviomagus Batavorum (a enwyd ar ôl llwyth y Batafiaid) ar ei safle a phentref yn gyfagos; gwersyll milwrol ar gyfer Germania Inferior oedd hi. Yn y Canol Oesoedd, roedd Nijmegen yn ganolfan fasnachol. Derbyniodd siarter dinas gan Ffrederic II yn 1230. Mae'n gartref i Brifysgol Radboud Nijmegen, prifysgol babyddol hyna'r wlad, a sefydlwyd yn 1923. Poblogaeth y ddinas yw 159,556 (2006).