Michael Bond
Oddi ar Wicipedia
Awdur plant ydy Michael Bond OBE, (ganwyd 13 Ionawr 1926 yn Newbury, Berkshire). Ef greodd Paddington Bear, mae hefyd wedi ysgrifennu anturiaethau mochyn cwta o'r enw Olga da Polga. Mae Bond hefyd yn ysgrifennu straeon dirgelwch coginiol ar gyfer oedolion; y prif gymeriad ydy Monsieur Pamplemousse a'i gwaetgi ffyddlon, Pommes Frites.
Addysgwyd Bond yn Presentation College, ysgol Catholig yn Reading. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwasanaethodd yn yr RAF a Catrawd Middlesex o'r Fyddin Brydeinig.
Dechreodd ysgrifennu yn 1945, gwethodd ei stori fer cyntaf i gylchgrawn London Opinion. Yn 1958, ar ôl cynhyrchu nifer o ddramau a straeon byrion tra'n gweithio i'r BBC fel dyn camera teledu (gweithiodd i ffilmio rhaglen Blue Peter am gyfnod), cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf A Bear Called Paddington. Erbyn 1967 roedd yn gallu rhoi'r gorau iw swydd yny BBC er mwyn dod yn awdur llawn amser. Mae anturiaethau Paddington wedi eu cyhoeddi mewn bron i ugain gwlad.
Mae Bond yn briod gyda dau o blant ac yn byw'n Llundain, ddim yn bell o Orsaf Paddington. Mae'r arth a greodd wedi ysbrydoli bandiau pop, ceffylau rasio, dramau, balŵniau a chyfres deledu.
Yn 1997, anrhydeddwyd Bond gyda OBE am ei wasanaethau i lenyddiaeth plant.
Ar 6 Gorffennaf 2007, gafodd Radd Anrhydedd Doctor of Letters gan Brifysgol Reading.