Mandan
Oddi ar Wicipedia
Llwyth o frodorion Gogledd America yw'r Mandan. Yn hanesyddol roeddynt yn byw ar hyd glannau Afon Missouri a dwy afon sy'n llifo i mewn iddi, afonydd Heart a Knife River; heddiw yn nhaleithiau Gogledd Dakota a De Dakota.
Yn wahanol i lwythau eraill yr ardaloedd hyn, roedd y Mandan yn byw mewn pentrefi parhaol, yn hytrach na symud i ddilyn y byffalo. Heblaw hela, roeddynt hefyd yn amaethu.
Daethant i gysylltiad ag Ewropeaid yn 1738, ac ymwelwyd a hwy gan nifer o fasnachwyr dros y ganrif nesaf. Erbyn dechrau'r 19eg ganrif roedd heintiau ac ymosodiadau gan lwythau eraill wedi gostwng eu nifer yn sylweddol. Wedi haint o'r Frech Wen yn 1837, roedd eu nifer cyn ised a 125. Oherwydd hyn, ymunasant a llwythau cyfagos yr Arikara a'r Hidatsa.
Dros y degawdau nesaf, lleihaodd tiroedd y llwythau dan bwysau o'r llywodraeth. Sefydlwyd tiriogaeth iddynt yn Fort Berthold, yn wreiddiol o tua 8 miliwn acer (32,000 km²), ond erbyn 1910, roedd ei faint wedi gostwng i tua 900,000 acer (3,600 km²). Yn 1934 unwyd y Mandan yn swyddogol a'r Hidatsa a'r Arikara. Bu farw'r Mandan gwaed-llawn olaf yn 1971; mae'r Mandan presennol o hil gymysg.
Cysylltwyd y Mandan a'r chwedl am ddarganfyddiad America gan Madog ab Owain Gwynedd tua 1170. Dechreuodd straeon gylchredeg am lwyth y Mandan, yn haeru eu bod yn siarad Cymraeg ac yn ddisgynyddion y Cymry a deithiodd i America gyda Madog. Teithiodd John Evans o'r Waunfawr yng Ngwynedd i fyny Afon Missouri i chwilio am y Mandan ddiwedd y 18fed ganrif. Cafodd hyd iddynt, ond ni chanfu unrhyw arwydd o eiriau Cymraeg yn eu hiaith.