Makroud
Oddi ar Wicipedia
Mae makroud (neu macroude neu makhroud) yn fath o gacen bach Tunisiaidd a wneir â semolina a dêts ac a gysylltir yn arbennig â dinas Kairouan.
Paratoir makroud trwy osod allan haen o bastri wedi'i wneud â blawd semolina ac ychwnaegu haen o ddêts arno fo (weithiau defnyddir ffigys yn lle dêts). Yna mae'r cyfan yn cael ei rwlio i fyny a'i dorri yn gacennau bach, o siâp losen neu driongl. Ychwanegir ychydig o hadau sesame neu cernels pîn weithiau cyn eu pobi.
Mae makroud yn ddanteithyn a geir ledled y wlad ond rhaid ei fwyta'n ffres er mwyn ei wethfawrogi'n iawn.