See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Maen Achwyfan - Wicipedia

Maen Achwyfan

Oddi ar Wicipedia

Carreg gerfiedig hynafol yn Sir y Fflint, gogledd Cymru, yw Maen Achwyfan.

Maen Achwyfan
Maen Achwyfan

Gorwedd y maen mewn cae agored tuag un milltir i'r gorllewin o Chwitffordd, ar y ffordd i Drelogan. Credir ei fod yn dyddio o tua dechrau'r 11eg ganrif. Mae'n garreg 3.4 medr o uchder gyda disg gron ar ei phen a addurnir gan groes Geltaidd. Saif ar garreg sylfaen sydd wedi suddo dan y pridd erbyn heddiw. Mae'n debygol ei bod yn sefyll ar ei safle gwreiddiol o hyd.

Mae cryn dipyn o ddamcaniaethu wedi bod am darddiad y garreg hon. Credir yn gyffredinol ei bod yn arddangos dylanwad Llychlynaidd. Yn ogystal â'r cerfiadau "ysgrôl" ceir croes Geltaidd arall ar gorff y garreg. Ger ei gwaelod ceir dau ffigwr, un o ddyn yn dal gwaywffon a'r llall yn ddyn gyda ffon; mae'n bosibl eu bod yn cynrychioli rhyfelwyr o'r math a geir ar gofebion Sgandinafaidd. Ceir croesau carreg tebyg i Faen Achwyfan mewn pedwar lle arall ar arfordir gogledd Cymru, e.e. Diserth, tua 20 yng ngogledd-orllewin Lloegr, a dau yng Nghernyw, i gyd ger yr arfordir. Mae hyn yn awgrymu dylanwad Teyrnas Manaw a'r Ynysoedd yn y parthau hyn ac mae'n bosibl felly mae crefftwr Sgandinafaidd a gerfiodd y garreg.

Yr hynafiaethydd lleol Thomas Pennant oedd y cyntaf i dynnu sylw pobl at Faen Achwyfan, yn ei lyfr Tours in Wales.

Mae Maen Achwyfan yn heneb gofrestredig sydd yng ngofal CADW.

[golygu] Cyfeiriadau

  • Nancy Edwards, 'The Dark Ages', yn The Archaeology of Clwyd (Cyngor Sir Clwyd, 1991)


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -