Môr Marw
Oddi ar Wicipedia
Mae'r Môr Marw (Hebraeg: ים המלח; Arabeg: البحر الميت) yn fôr cyfandirol a leolir rhwng y Lan Orllewinol, Israel a Gwlad Iorddonen yn y Dwyrain Canol. Mae ei ddyfroedd yn hallt iawn (30%), sy'n ei wenud yn fwy hallt nag unrhyw gorff arall o ddŵr yn y byd (dros wythwaith mwy hallt na'r môr ar gyfartaledd), a dim yn medru cynnal bywyd.
Ei arwynebedd yw 1050 km² (400 milltir sgwâr), ei hyd 67 km (42 milltir) a'i led 18 km (11 filltir). Mae Afon Iorddonen yn rhedeg i mewn iddo ond does dim afon yn llifo ohono a dyna pam fod cymaint o halen yn y dŵr. Fe'i gelwir Y Môr Marw nid am nad oes bywyd ynddo ond am ei fod mor llonydd fel rheol. Oherwydd ei fod mor hallt mae pobl yn medru arnofio ar wastad eu cefnau arno heb drafferth yn y byd.
'Môr y Rhos' (Môr y gwastadeddau) neu'r 'Môr Heli' yw'r enwau arno yn y Beibl. Cyfeirir ato am y tro cyntaf yn Llyfr Genesis. I'r gorllewin ohono yr oedd teyrnas Moab a dinas Nebo.
[golygu] Gweler hefyd
- Sgroliau'r Môr Marw