Llyn Cefni
Oddi ar Wicipedia
Mae Llyn Cefni yn gronfa ddŵr a ffurfiwyd trwy adeiladau argae ar draws Afon Cefni ar Ynys Môn. Saif y llyn tua 1 km i'r gogledd o dref Llangefni ac i'r dwyrain o bentref Bodffordd.
Mae'r llyn yn hir a chul, yn rhedeg i'r gogledd-ddwyrain o Bodffordd. Mae tua 2.3 km o led ac mae ei arwynebedd yn 0.86km²; Llyn Cefni yw'r llyn mwyaf ar Ynys Môn ar ôl Llyn Alaw. Caiff ei rannu'n ddau gan drac Rheilffordd Canol Môn. Er nad oes defnydd ar y rheilffordd ellach, mae'r cledrau yn parhau yn eu lle. Mae llwybr beicio yn mynd heibio glan ddeheuol y llyn, ac yr oedd cuddfan adar yno, ond cafodd hon ei llosgi'n ulw gan fandaliaid yn ystod gaeaf 2006-07.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.