Karl Marx
Oddi ar Wicipedia
Roedd Karl Heinrich Marx (5 Mai 1818 - 14 Mawrth 1883) yn athronydd gwleidyddol a damcaniaethwr cymdeithasol dylanwadol o dras Iddewig o'r Almaen. Er iddo drafod nifer o bynciau yn ei yrfa fel newyddiadurwr ac athronydd, y mae mwyaf enwog am ei ddadansoddiad o hanes yn nhermau gwrthdarro dosbarth. Crynhoir ei athroniaeth gan yr honiad bod diddordeb cyfalafwyr a gweithwyr cyflogedig yn gwbwl groes i'w gilydd.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.