James Kitchener Davies
Oddi ar Wicipedia
Bardd a dramodydd yn y Gymraeg oedd James Kitchener Davies neu Kitchener Davies (16 Mehefin, 1902 - 25 Awst, 1952), a aned ger Cors Caron, Ceredigion.
Cafodd ei addysg yn Nhregaron a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, cyn symud i dreulio gweddill ei oes yn Y Rhondda. Roedd yn aelod selog o Blaid Cymru yn y cwm ac yn gyfaill i'r llenor Rhydwen Williams.
Seilir enw Kitchener Davies fel dramodydd ar ddwy ddrama arbennig, sef Cwm Glo a Meini Gwagedd. Mae ei bryddest Sŵn y Gwynt sy'n Chwythu, a ddarlledwyd gan y bardd ar ei wely angau, yn cael ei chydnabod yn gyffredinol fel un o'r cerddi grymusaf yn llenyddiaeth Gymraeg yr 20fed ganrif.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Gwaith James Kitchener Davies (1980). Gol. gan Mair I. Davies.