Haute-Vienne
Oddi ar Wicipedia
Un o départements Ffrainc, yn rhanbarth Limousin yng ngorllewin canolbarth wlad yw Haute-Vienne. Ei phrifddinas weinyddol yw dinas hanesyddol Limoges. Mae Haute-Vienne yn ffinio â départements Indre, Creuse, Corrèze, Dordogne, Charente a Vienne. Llifa rhan uchaf Afon Vienne drwy'r département, gan roi iddo ei enw.
Mae'r prif drefi yn cynnwys:
- Bellat
- Limoges
- Rochechouart