Gwlff Saronica
Oddi ar Wicipedia
Mae Gwlff Saronica (Groeg: Saronikos Kolpos) neu'r Gwlff Aegina yn gilfach neu foryd o'r Môr Aegea sy'n gorwedd rhwng gorynys Attica a'r Peloponesse. Mae Athen a'i phorthladd Piraeus ar ei lannau. Mae'n cynnwys ynysoedd Salamis, lleoliad Brwydr Salamis (480 CC), Aegina, Methana a Poros. Penrhyn Sounion yn Attica sy'n nodi terfyn deheuol y gwlff.
Yn y gogledd mae Camlas Corinth yn cysylltu Gwlff Saronica â Gwlff Corinth.