Gwilym Brewys
Oddi ar Wicipedia
Roedd y Normaniad Gwilym Brewys neu William de Braose (1197 - 2 Mai 1230), yn Arglwydd y Fenni, Brycheiniog, yn ne-ddwyrain Cymru.
Cafodd garwriaeth gudd â Siwan, gwraig Llywelyn ap Iorwerth a merch y brenin John o Loegr, a arweiniodd at ei grogi gan y tywysog yn Abergwyngregyn yn 1230.
Mae drama fydryddol Saunders Lewis, Siwan, yn seiliedig ar y digwyddiad.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.