Galway
Oddi ar Wicipedia
Galway (Gwyddeleg: Gaillimh) yw'r unig ddinas yn nhalaith Connacht a phrif ddinas Swydd Galway, gorllewin Iwerddon. Saif ar lan Bae Galway lle rhed Afon Corrib i'r môr ar ddiwedd ei thaith fer o Loch Corrib, i'r gogledd. Dros y bae i'r gorllewin ceir Ynysoedd Aran a gysylltir â'r ddinas gan wasanaeth fferi rheolaidd.
Ganed y llenor Gwyddeleg Pádraic Ó Conaire yng Ngalway yn 1882.