Gabriel
Oddi ar Wicipedia
![Yr archangel Gabriel yn cyhoeddi i'r Forwyn Fair y bydd hi'n beichiogi ac yn esgor ar yr Iesu (llun gan Fra Angelico)](../../../../images/shared/thumb/2/28/Fra_Angelico_095.jpg/300px-Fra_Angelico_095.jpg)
Gabriel yw un o'r saith archangel yn y traddodiad Cristnogol, gyda Mihangel, Raphael, Uriel ac eraill, sy'n sefyll yn dragwyddol o flaen Duw ac yn barod i'w hanfon fel ei negesyddion i'r dynolryw. Fe'i derbynnir hefyd fel un o'r angylion gan Iddewon a Mwslemiaid.
Gabriel yw nawddsant genedigaeth. Yn ogystal fe'i cyfrifir heddiw yn nawddsant teledu a thelegyfathrebu. Gyda Mihangel mae'n warchod drysau eglwysi rhag y Diafol.
Yn y traddodiad Islamaidd mae'n cael ei barchu fel yr angel a anfonwyd gan Dduw i roi'r Coran i'r Proffwyd Mohamed.