Eirug Wyn
Oddi ar Wicipedia
Roedd Eirug Wyn (11 Rhagfyr, 1950 - 25 Ebrill, 2004) yn lenor Cymraeg.
Cafodd ei eni yn Sir Drefaldwyn yn fab i weinidog, ond symudodd y teulu i Arfon pan oedd yn blentyn.
Yn fachgen ysgol fe ddechreuodd yr ymgyrch i roi plat D am ddysgwr gyrru ar gar yn lle y plât L, a oedd yn anghyfreithlon ar y pryd. Fe enillwyd y frwydr.
Ar ôl astudio yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin sefydlodd Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin ddechrau'r 1970au, gyda dau bartner arall. Wedyn symudodd i'r gogledd a sefydlu Siop y Pentan yng Nghaernarfon ac wedyn ym Mangor.
Bu'n gynhyrchydd i Ffilmiau'r Bont yng Nghaernarfon am flynyddoedd.
Enillodd y Fedal Ryddiaith ym Eisteddfod Bro Ogwr yn 1998 am Blodyn Tatws ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000 am Tri Mochyn Bach. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Nedd a'r cyffiniau 1994 am Smoc Gron Bach ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002 am Bitch.
Ysgrifennodd 15 o lyfrau a chyhoeddodd lyfrau dan y ffugenw Derek Tomos (barddoniaeth) a Myfi Derek (hunangofiant).
Bu yn berchen ar siopau Cymraeg, yn gyntaf yng Nghaerfyrddin, ac wedyn yng Nghaernarfon a Bangor.
Menter fasnachol arall a gostiodd yn ddrud iddo oedd ei gysylltiad â'r cylchgrawn Lol Collodd achos o enllib a ddygwyd yn ei erbyn gan gwmni teledu.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Smoc Gron Bach Gwobr Goffa Daniel Owen 1996
- Blodyn Tatws Cyfrol y Fedal Ryddiaeth 1998
- Tri Mochyn Bach Cyfrol y Fedal Ryddiaeth 2000
- Bitsh Gwobr Goffa Daniel Owen. 2002
- Y Dyn yn y Cefn Heb Fwstash. 2004