Einion ap Gwgon
Oddi ar Wicipedia
Bardd llys o Wynedd yn chwarter cyntaf y 13eg ganrif oedd Einion ap Gwgon (weithiau Einion ap Gwgan) (fl. 1215).
Mae'n bosibl fod Einion yn fab i'r bardd Gwgon Brydydd (fl. tua 1200-1220), ond ni ellir profi hynny'n derfynnol. Ceir cyfeiriad at rywun o'r enw 'Einion ap Gwgon' neu 'Einion ap Caradog ap Gwgon' yn yr achau fel un o lwyth Gollwyn ap Tangno. Os gellir uniaethu'r bardd â'r gŵr hwnnw, byddai'n medru olrhain ei ach yn ôl at Goel Hen ac arwyr yr Hen Ogledd. Roedd Llywelyn Fawr ei hun yn perthyn i'r un llinach.
Yr unig gerdd gan Einion a gadwyd yw awdl foliant i Lywelyn Fawr. Ceir y testun cynharaf yn Llawysgrif Hendregadredd ac mae pob testun diweddarach yn deillio o'r llawysgrif honno. Mae'n gerdd hir o naws orfoleddus sy'n dathlu buddugoliaethau Llywelyn yn y de o ardal Dyffryn Tanad a'r Mers i Gaerfyrddin ac Aberteifi. Gellir ei dyddio i'r flwyddyn 1215 neu'n fuan ar ôl hynny. Ceir nifer o gyfeiriadau at arwyr yr Hen Ogledd a chymherir Llywelyn i arwyr fel Rhydderch Hael a Rhun ap Maelgwn Gwynedd.
[golygu] Llyfryddiaeth
- R. Geraint Gruffudd (gol.), 'Gwaith Einion ap Gwgon', yn, Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.
Beirdd y Tywysogion | |
---|---|
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Philyp Brydydd | Seisyll Bryffwrch |