Eglwys Fethodistaidd Prydain Fawr
Oddi ar Wicipedia
Enwad ymneilltuol yw Eglwys Fethodistaidd Prydain Fawr, sy’n fwy adnabyddus fel y Methodistaid Wesleaidd neu y Wesleaid. Dros Brydain mae gan yr enwad tua 330,000 o aelodau a 6,000 o eglwysi.
Datblygodd Methodistiaeth fel symudiad o fewn yr Eglwys Anglicanaidd yn ystod y 18fed ganrif. Datblygodd Methodistiaeth Wesleaidd o bregethu John Wesley, oedd yn offeiriad yn Eglwys Loegr.Bu nifer o ymraniadau yn ystod y 19eg ganrif, ond yn raddol ad-unwyd y rhain yn rhan gyntaf yr 20fed ganrif. Ffurfiwyd yr Eglwys Fethodistaidd bresennol yn 1932, pan ddaeth y tri enwad mwyaf at ei gilydd.
[golygu] Wesleaeth yng Nghymru
Bu John Wesley yn pregethu yng Nghymru nifer o wethiau, ond cyfyngwyd ar ei lwyddiant gan anawsterau iaith. Y Methodistaid Calfinaidd, gan arweiniaid Daniel Rowland a Howell Harris oedd y cryfaf o lawer o’r enwadau Methodistaidd yng Nghymru. Roedd rhywfaint o gydweithrediad rhwng y ddau fudiad, ond roedd gwahaniaethau diwinyddol hefyd, gyda’r Wesleaid yn coleddu Arminiaeth yn hytrach na Chalfiniaeth. Ar y cyntaf, sefydlwyd capeli Wesleaidd yn bennaf mewn ardaloedd lle roedd nifer sylweddol o ymfudwyr o Loger neu o gwmpas y gororau. Mae capel Aberriw ym Mhowys yn enghraifft gynnar, yn dyddio o 1797. Capel Cymraeg cyntaf y Wesleaid oedd Capel Pendref, Dinbych, yn 1802. Adwaenir yr enwad yng Nghymru fel Eglwys Fethodistaidd (Cymru).