Dylan Iorwerth
Oddi ar Wicipedia
Newyddiadurwr a llenor yn yr iaith Gymraeg yw Dylan Iorwerth (ganwyd 1957). Cafodd ei eni yn Nolgellau ond symudodd y teulu i Waunfawr pan oedd yn saith oed.
Ar ôl astudio yng Ngoleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ymunodd â'r Wrexham Leader am gyfnod cyn ymuno ag Adran Newyddion BBC Radio Cymru. Bu yn un o sylfaenwyr y papur Sul wythnosol Sulyn a'r cylchgrawn wythnosol Golwg.
Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000 a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005.