Dylan Ail Don
Oddi ar Wicipedia
Ym Mhedwaredd Cainc y Mabinogi Dylan Ail Don ( yn Gymraeg Canol Dylan Eil Ton) yw brawd Lleu Llaw Gyffes a mab Arianrhod.
Yn ôl y gainc Math fab Mathonwy, cyn gynted ag y bedyddiwyd ef "fe gyrchodd y môr ac fe gafodd natur y môr. Oherwydd hynny y gelwid ef Dylan Ail Don." Un o ystyron y gair 'ail' ('eil') yn Hen Gymraeg a Chymraeg Canol oedd 'mab' neu 'etifedd' (gall hefyd olygu 'llwyth' neu 'genedl'). Ond mae'n bosibl mae ymgais gan awdur y Pedair Cainc oedd hyn i esbonio'r enw yw'r stori am ei eni o'r môr ac mae rhai ysgolheigion yn dadlau fod Dylan yn dduw ac yn fab i'r dduwies Geltaidd adnabyddus Dôn (fel Gwydion ei hun). Cafodd Dylan ei ladd ar ddamwain gan ei ewythr Gofannon.
Ceir sawl cerdd yn Llyfr Taliesin a dadogir ar Taliesin Ben Beirdd sy'n cyfeirio at Ddylan. Yn y llawysgrif honno ceir marwnad iddo yn ogystal. Un o'i enwau yn nhestunau Llyfr Taliesin yw 'Dylan Ail Môr'.