Djebel Bou Kornine
Oddi ar Wicipedia
Mynydd trawiadol sy'n dominyddu Gwlff Tunis yng ngogledd Tunisia yw Djebel Bou Kornine (Arabeg: جبل بوقرنين), hefyd Djebel Boukornine neu Bou Kornine/Boukrnine; Bou Garnine ar lafar), sy'n codi i uchder o 576 metr uwchben trefi Hammam Lif a Borj Cedria, ger Tunis. Mae'r mynydd calchfaen hwn yn cynrychioli un o'r copaon olaf cadwyn Dorsal Tunisia i gyfeiriad y dwyrain.
Daw'r enw o'r Arabeg dafodieithol bou garnine sy'n golygu "mynydd â dau gorn". Fe'i gelwir felly oherwydd ei ddau gopa gefaill (576m a 493 m). Mae'n bosibl fod yr enw yn tarddu o gyfnod u Carthaginiaid pan gafodd ei gysegru i'r duw Baal Karnine ('duw dau gorniog' yn yr iaith Ffeniceg).
Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Boukornine, parc bychan o 1939 hectar sy'n gartref i sawl rhywogaeth o anifeiliaid a phlanhigion. Gorchuddir llethrau'r mynydd â phinwydd Aleppo bytholwyrdd.
Lleolir gorsaf ddarlledu radio a theledu ar gyfer Tunis Fwyaf ger y copa. Gellir cyrraedd y llethrau uchaf ar hyd ffordd jip o Borj Cedria.