See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Dewi Sant - Wicipedia

Dewi Sant

Oddi ar Wicipedia

Dewi Sant (yng nghapel Coleg yr Iesu yn Rhydychen)
Dewi Sant (yng nghapel Coleg yr Iesu yn Rhydychen)
Baner Dewi Sant
Baner Dewi Sant

Dewi Sant yw nawddsant Cymru. Ni wyddom lawer amdano. Mae'n sicr iddo fyw yng Nghymru a'i fod yn chwarter Cymro o leiaf.

Yn ôl traddodiad cafodd ei eni yn Henfynyw ger Aberaeron, ond mae traddodiad arall yn cyfeirio at Capel Non, gerllaw Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw. Ei fam oedd y santes Non a'i dad oedd Sandde brenin Ceredigion.

Mae'n eithaf sicr iddo sefydlu ei abaty yn Nhyddewi (yr hen enw oedd Mynyw: Menevia) ac mae cyfeiriad at fynachlog yno mewn llawysgrif Wyddelig o tua'r flwyddyn 800. Enw arall ar y lle yw Glyn Rhosyn, sy'n gamgyfieithiad o'r Lladin vallis rosina sydd, o'i gyfieithu'n gywir, yn golygu cwm corsiog.

Mae'n demtasiwn i feddwl am y llecyn fel lle tawel, ond allai hynny ddim fod ymhellach oddi wrth y gwir. Roedd yn groesffordd i deithiau i Iwerddon, Cernyw, Llydaw gan arwain i Rufain a'r dwyrain a'r gogledd. Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi ei hun mewn pant ac yn agos i adfeilion Plas yr Esgob.

Mae bron pob peth a wyddom am Dewi Sant yn tarddu o'r fuchedd a ysgrifennodd Rhigyfarch tua'r flwyddyn 1100. Gelwir y cyfieithiad Cymraeg Canol o'r Lladin wreiddiol Buchedd Dewi Sant.

Yn ôl traddodiad bu farw Dewi ar y cyntaf o Fawrth, a dyma'r dyddiad y dethlir Gŵyl Ddewi bob blwyddyn.

Gosododd Dewi gyfundrefn lem iawn yn ei fynachlog. Roedd yr oriau gweddïo yn hir, bara a dŵr oedd y bwyd arferol, a'r gwaith yn galed. Rhaid oedd ymrwymo i dlodi hefyd, ond yr oedd pregethu'r efengyl i'r paganiaid yn holl bwysig. Oherwydd ei ffordd o fyw adwaenir Dewi fel "Dewi Ddyfrwr" (Aquaticus).

Ymhlith y traddodiadau niferus am y sant, dywedir iddo gwrdd â Sant Padrig ar Ynys Dewi, ar arfordir Sir Benfro ger Tyddewi. Traddodiad arall yw i'r tir godi pan yn pregethu i dyrfa enfawrfawr yn Llanddewi Brefi gan nad oedd y dorf yn gallu ei weld na'i glywed ac i golomen eistedd ar ei ysgwydd.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -